Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
Committee for the Scrutiny of the First Minister

 

Carwyn Jones AC

Y Prif Weinidog

Llywodraeth Cymru

Pumed llawr, Tŷ Hywel

Bae Caerdydd

CF99 1NA                                                                               22 Medi 2014

Annwyl Brif Weinidog

 

Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd 2010 gan Lywodraeth Cymru

 

Roedd y Pwyllgor yn ddiolchgar ichi a'ch swyddogion am ddod ger ein bron yn y cyfarfod ar 26 Mehefin ac am ateb ein cwestiynau.

 

Yn ogystal ag ateb y cwestiynau yn y cyfarfod, gwnaethoch hefyd gytuno i ysgrifennu atom ynghylch strategaeth feicio Llywodraeth Cymru ar gyfer ei staff, yn benodol yng nghyfadeilad Parc Cathays lle mae llawer o staff yn gweithio. 

 

Edrychodd y cyfarfod ar y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu'r Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd 2010 gan Lywodraeth Cymru.  Mae'r Pwyllgor wedi trafod eich atebion i'n cwestiynau ac mae ganddo nifer o bwyntiau ac argymhellion yr hoffai eu gwneud.  Nodir y rhain isod.

 

Targedau o ran y newid yn yr hinsawdd

 

Roedd rhywfaint o ddryswch yn y cyfarfod ynghylch i ba raddau y mae'r targedau o ran y newid yn yr hinsawdd yn statudol ledled y DU.  Awgrymodd un rhanddeiliad mai Cymru oedd yr unig weinyddiaeth yn y DU lle nad yw targedau'n statudol. 

 

Bellach, deallwn nad felly y mae. Fodd bynnag, mae Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 yn ei gwneud yn ofynnol i'r DU leihau allyriadau o leiaf 80% erbyn 2050 o gymharu â lefelau 1990. Mae'r targed 80% yn cynnwys allyriadau nwyon tŷ gwydr o'r gweinyddiaethau datganoledig, sy'n cyfrif am tua 20% o gyfanswm allyriadau'r DU ar hyn o bryd.  Deallwn fod Deddf Newid yn yr Hinsawdd (yr Alban) 2009 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Alban leihau ei hallyriadau 42% erbyn 2020 a gostyngiadau blynyddol rhwng 2010 a 2050.  Yng Ngogledd Iwerddon, ar ôl cael cyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, mae Gweinidog yr Amgylchedd yn datblygu cynlluniau ar gyfer Deddf Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer Gogledd Iwerddon.

 

Deallwn hefyd fod y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar yr opsiynau posibl ar gyfer deddfwriaeth newid yn yr hinsawdd.  Byddem yn ddiolchgar pe gallech nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r cyngor hwn ac yn benodol i'r cwestiwn ynghylch targedau statudol ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.

 

Wedi dweud hynny, roeddem yn sicr y dylai deddfwriaeth i gyflwyno targedau statudol ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru fod ar yr agenda erbyn hyn.  Rydym yn gwerthfawrogi y gall fod yn anodd pennu targedau statudol ar gyfer meysydd polisi nad ydynt, yn gyfan gwbl, o fewn meysydd cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru na'r Cynulliad.  Fodd bynnag, nodwyd gennym eich bod wedi dadlau ei bod yn bosibl cael targedau ystyrlon ond nad oeddech am i'r rhain fod yn statudol.  Yn ein barn ni, byddai newid y targedau ystyrlon a ddisgrifir gennych yn rhai statudol yn arwydd clir a phwysig o ymrwymiad y Llywodraeth yn y maes hwn.

 

Rydym yn argymelly dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno targedau uchelgeisiol ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru a dylent fod yn rhai statudol ar gyfer y meysydd polisi hynny y mae Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad yn gwbl, neu'n bennaf, gyfrifol amdanynt. 

 

Cyllidebau Carbon

 

Mae'r Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU bennu 'cyllidebau carbon' cyfreithiol rwymol, sy'n gweithredu fel terfyn ar faint o nwyon tŷ gwydr a allyrrir yn y DU dros gyfnod o bum mlynedd. Trafodwyd y cysyniad hwn gyda chi fel ffordd o werthuso a barnu effaith garbon polisïau a phenderfyniadau gweithredol Llywodraeth Cymru, yn arbennig mewn perthynas â phrosiectau seilwaith mawr newydd.

 

Credwn ei bod yn werth sicrhau y caiff olion troed carbon pob prosiect a phenderfyniad gweithredol eu hystyried yn gyson ac yn drylwyr yn erbyn y targedau cyffredinol ar gyfer lleihau carbon.  Ymddengys inni fod y Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a gyflwynwyd i'r Cynulliad yn ddiweddar, yn gyfrwng perffaith ar gyfer sefydlu'r egwyddor o ran sicrhau bod y cyllidebau carbon yn rhai statudol.  Rydym yn argymelleich bod yn ystyried diwygio'r Bil i gynnwys y dylai'r egwyddor hon fod yn gymwys yn y dyfodol i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a gwmpesir gan y Bil.

 

Cyllidebau Carbon - Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd

 

Ers inni drafod y materion hyn gyda chi, mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth wedi cyhoeddi ei phenderfyniad ynghylch coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.  Mae ei chyhoeddiad wedi achosi cryn dipyn o drafodaeth gyhoeddus a fydd, heb amheuaeth, yn parhau.  Ein bwriad yw trafod yr hyn na chawsom ei drafod yn y cyfarfod, ond y bwriad oedd rhoi gwybod ichi y byddai'r penderfyniad ynghylch yr M4 yn brawf da ar gyfer sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ei hasesiadau carbon a pha mor ymrwymedig ydyw i gyrraedd targedau llymach.

 

Mae un o'r prif ddadleuon a ddefnyddiwyd i gyfiawnhau'r ymrwymiad pwysig i adeiladu ffyrdd a gyhoeddwyd gan y Gweinidog yn golygu y bydd y lleihad mewn traffig sy'n ciwio yn gwrthbwyso unrhyw geir ychwanegol a fydd yn defnyddio'r M4.

 

Credwn fod angen asesiad llawer mwy trwyadl o effaith garbon y penderfyniad hwn a byddem yn ddiolchgar am gael rhagor o wybodaeth ynghylch union pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd ac y bydd yn eu cymryd i gynnal asesiad o'r fath.

 

Y sector preswyl

 

Nodwyd gennym fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau ym mis Gorffennaf 2013 i ddiwygio Rhan L o'r Rheoliadau Adeiladu.  Bydd y diwygiadau'n golygu, o fis Gorffennaf 2014 ymlaen, bod yn rhaid i gartrefi newydd sicrhau gostyngiad o 8% mewn allyriadau CO2 o gymharu â safonau 2010.  Fodd bynnag, yn wreiddiol, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ostyngiad o 40% neu 25%.  Newidiodd hyn i 8% ar ôl i'r diwydiant adeiladu fynegi pryderon ynghylch yr effaith ar hyfywedd datblygiadau tai yng Nghymru.

 

Nid ydym yn argyhoeddedig fod y targed hwn yn ddigon uchelgeisiol ac ymddengys nad yw'n gwneud llawer mwy na mabwysiadu gwelliannau a oedd yn cael eu gwneud gan y diwydiant beth bynnag.  Nodwyd gennych mai targed byrdymor ydyw am ddwy neu dair blynedd hyd nes bod y farchnad dai yn fwy sefydlog a chynaliadwy.  Byddem yn eich annog i ailystyried y targed hwn cyn gynted â phosibl gyda'r nod o fabwysiadu targed mwy uchelgeisiol ar gyfer yr hirdymor.

 

Yn y cyfamser, byddai'n ddefnyddiol pe gallech roi gwybod inni pa asesiadau a gynhaliwyd er mwyn helpu i ddarbwyllo'r Llywodraeth y byddai'r targed CO2 o 8% yn arwain at adeiladu mwy o gartrefi.

 

Newid ymddygiad ac addysg

 

Yng nghyflwyniad Strategaeth Ymgysylltu ar y Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cymru, dywed fod Llywodraeth Cymru am gael trafodaeth â phobl ledled Cymru: 'Mae cael y drafodaeth hon yn her fawr a hirdymor ac yn her a all ddylanwadu ar yr hyn a wneir ym mhob agwedd ar fywydau pobl er mwyn gwella’r buddiannau hirdymor i bobl Cymru.' Aiff yn ei flaen i ddweud bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i '...sefydlu Cymru fel arweinydd byd o ran cyfathrebu ar newid yn yr hinsawdd'.

 

Fodd bynnag, cawsom hefyd wybod am y feirniadaeth ddiweddar ynghylch y ffaith bod y dull o gyfleu materion sy'n ymwneud â'r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru wedi bod yn draddodiadol ac o'r gwaelod i fyny ac nad oedd wedi gallu cysylltu materion o ran y newid yn yr hinsawdd â phryderon cyfredol cymunedau lleol. Cawsom hefyd wybod am y pryderon gan Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd bod Llywodraeth Cymru yn cyfleu negeseuon cymysg ynghylch y newid yn yr hinsawdd a bod angen pwysleisio'r pwysigrwydd o gyrraedd y targedau lleihau allyriadau ym mhob sector a chyda'r cyhoedd.  Roedd y negeseuon cymysg hyn a'r diffyg arweinyddiaeth gref yn golygu ei bod yn llawer llai tebygol y gellid sicrhau'r newid angenrheidiol mewn ymddygiad.

 

Roeddem hefyd yn cwestiynu a oedd y llwyddiant diamheuol o ran cael y cyhoedd yng Nghymru i wella'r cyfraddau ailgylchu yn cuddio'r angen i argyhoeddi'r cyhoedd yng Nghymru o'r angen i sicrhau ymdrechion ehangach a chadarnhach o ran y newid yn yr hinsawdd.  Gall yr adolygiad cyfredol o'r cwricwlwm hefyd gynnig cyfleoedd i fynd i'r afael â'r angen i addysgu'r cyhoedd ynghylch materion sy'n ymwneud â'r newid yn yr hinsawdd.

 

Byddem yn ddiolchgar am eich sylwadau ar y pwyntiau hyn ac yn benodol ar p'un a yw Llywodraeth Cymru yn cyfleu neges glir a chyson.

 

Ynni cymunedol

 

Nodwyd gennym y bydd y fenter 'Ynni'r Fro' yn dod i ben ddiwedd flwyddyn nesaf, a'ch bod bellach yn ystyried y dewisiadau amgen a allai gael eu rhoi ar waith unwaith y daw'r cynllun hwnnw i ben.

 

Rydym yn argymelly bydd olynydd neu estyniad i'r rhaglen 'Ynni'r Fro', a fydd yn manteisio ar brofiad a chyfraniad Ynni Cymunedol Cymru, ac yn rhoi hwb i'r maes polisi hwn.

 

Cyfrifoldebau am faterion sy'n ymwneud â'r newid yn yr hinsawdd o fewn Llywodraeth Cymru

 

Fel y gwyddoch, ar ôl cyhoeddi adroddiad cynnydd Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2013, cyhoeddodd Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd sylwebaeth annibynnol ar yr adroddiad ym mis Ionawr 2014. 

 

Ymhlith y materion y tynnodd y Comisiwn sylw atynt, roedd yr angen i unioni'r broses o wneud penderfyniadau ar lefel uwch, yn arbennig yn y Llywodraeth a Llywodraeth leol fel blaenoriaeth. Dywedodd fod angen arweinyddiaeth ac atebolrwydd mewnol clir o fewn adrannau er mwyn sicrhau cysondeb y neges.

 

Nodwyd gennym eich barn eich bod wedi eich cyfyngu o ran yr hyn y gallwch ei wneud fel y Prif Weinidog heb dynnu'r cyfrifoldeb oddi wrth Weinidogion eraill.  Gwnaethoch hefyd y pwynt fod pob Gweinidog yn chwarae rhan yn y broses o fynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â'r newid yn yr hinsawdd o fewn portffolios.  Fodd bynnag, nodwyd gennym hefyd fod Llywodraeth Cymru yn honni mai datblygu cynaliadwy yw ei un phrif egwyddor drefnu a'r ffaith bod y Prif Weinidog eisoes yn gyfrifol am y polisi ynni.

 

O ystyried natur drawsbynciol y mater yn ei hanfod a'r pwysigrwydd mawr a roddir i'r mater gan y Llywodraeth, credwn y byddai'n gwneud synnwyr ichi fel y Prif Weinidog feddu ar y cyfrifoldeb cyffredinol a'r cyfrifoldeb cydgysylltiedig ar gyfer y newid yn yr hinsawdd a'r materion datblygu cynaliadwy ehangach.  Rydym yn argymell eich bod yn gwneud hynny a bod tîm newid yn yr hinsawdd craidd Llywodraeth Cymru yn dod yn atebol yn uniongyrchol ichi ac y caiff y tîm yr adnoddau priodol ar gyfer y dasg.

 

Byddwn yn ddiolchgar am eich ymateb ar y pwyntiau uchod maes o law. 

 

Yn gywir

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog